Pam bod yr haf yn hedfan os yw hi'n braf ond yn llusgo pan mae'n bwrw? Dyma'r mis Awst gwlypaf erioed, Ers cychwyn y bydysawd medde y papurau! Gredai hynny, roeddwn i yn gyrru i lawr y draffordd tuag at Abertawe py'ddiwrnod, ac rwy'n siwr weles i ychen yn aredig paddy field drwy'r llifogydd, roeddwn yn disgwyl cast Apocalypse Now i ymddangos unrhyw funud yng nghanol y cawodydd trofannol.
Ta waeth mae'n ddyddiau cwn a sdim byd yn digwydd yn y papurau a straeon yn anodd eu ffeindio. Ond o leiaf ges i'r cyfle i gwrdd lan a hen griw ysgol am ginio cyn priodas un ohonnynt a chael tipyn o hwyl.
I'r gad heno - taclo cynghorwyr ynglyn a phroblem sbwriel ar y stryd. Pam bod llawer o drigolion y dref hon yn ddigon hapus i adael eu cwn deilo ar ei strydoedd a taflu sbwriel ar hyd y lle heb feddwl ddim am oblygiadau iechyd gweithredoedd o'r math. It gets you down man ... a finne unwaith eto ar gefn fy ngheffyl ! Giddy up Dobbin.

No comments:
Post a Comment