Argle mawr - ymunais a dosbarth ysgrifennu creadigol yn ddiweddar - beth allai ddweud? Dylen i wedi gwybod yn well, o brofiad blaenorol. Roedd yr ystafell yn llawn i'r ymylon gyda'r White Settler.
Yn un cornel roedd Ms Hunt Saboteur gyda'i gwallt pinc a modrwy drwy'i thrwyn, yn y gornel arall, y fam dduwies, oedd yn ymddiddori mewn derwyddiaeth a'r gwyll Celtaidd. Draw yn y gornel arall llanc ifanc o barthau Swydd Essex neu Chaint a weithia'i yn "ops room" y gwasanaethau argyfwng. Yn anffodus, roedd e'n methu ynganu enwau llefydd fel Abergorlech (Abergok). Sut ddiawl oedd hwn yn mynd i gyfeirio yr ambiwlans a'r frigad dan i achub trigolion Brechfa neu Gwernogle rhag tan a brwmstan tase'r coedwigoedd yn llosgi'n ulw! Ac i goroni'r cyfan y fenyw hoyw gydag anabledd a'i chi , pobl oedd yn dal i brotestio yn erbyn treth y pen a chomin Greenham, a fi, y bolshi Welsh Nat!
Ta waeth pwnc trafod y noson honno oedd stori fer gan Emyr Humphreys yn son am weinidog yn mynd i'r carchar am wrthod talu'r drwydded deledu. Roedd anwybodaeth y giwed yn anghredadwy - dim syniad am hanes a gwleidyddiaeth diweddar Cymru na'r cyd-destun ieithyddol, roeddwn i ishe dweud - "Forget the writin' go home you misfits and read a bloody Welsh history book."